Alfred Russel Wallace
Biolegydd a naturiaethwr o Sais oedd Alfred Russel Wallace (8 Ionawr 1823 – 7 Tachwedd 1913). Cafodd ei eni yn Llanbadog ger Brynbuga, Mynwy, Cymru. Roedd yn naturiaethwr, daearyddwr, anthropolegydd ac yn fiolegydd bydenwog, yn bennaf gan iddo ddatblygu'r cysyniad o esblygiad o flaen, neu ar yr un pryd â Charles Darwin, er mai Darwin a gafodd y clod. Roedd yn Sosialydd ac roedd yn gefnogol i hawliau merched.Dechreuodd ei waith ar Afon Amazon gyda'r naturiaethwr Henry Walter Bates ond cafwyd tân ar fwrdd y llong wrth ddychwelyd a chollodd ei samplau, a'r arian o'u gwerthu. Teithiodd yn ddiweddarach i Archipelago Malay - unwaith eto i gasglu samplau o fywyd gwyllt masnachol. Yno y disgrifiodd yr hyn a elwir, bellach, yn Llinell Wallace sef dosraniad pwysig rhwng Indonesia ac Awstralia. Adnabyddir ef hefyd fel "tad bioddaearyddiaeth". Bu farw yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia