Ieithydd Daneg ac arbennigwr ar yr iaithSaesneg oedd Otto Jespersen (16 Gorffennaf1860 - 30 Ebrill1943). Fe'i ganed yn Randers yng ngogledd Jutland, a mynychodd Brifysgol Copenhagen, lle astudiodd Saesneg, Ffrangeg a Lladin. Treuliodd adeg yn astudio yn Rhydychen hefyd. Athro Saesneg oedd ef ym Mhrifysgol Copenhagen o 1893 tan 1925. Yno sefydlodd y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol. Roedd ei brif weithiau megis ''Growth and structure of the English language'' (1905) ac ''A modern English grammar on historical principles'' (1909–49), yn ymdrin â strwythur a hanes y Saesneg. Roedd hefyd yn ymddiddori mewn prosiectau i greu ieithoedd rhyngwladol artiffisial megis Ido a Novial.
Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Jespersen, Otto', amser ymholiad: 0.00e
Mireinio'r Canlyniadau